Caniad Solomon 6:10-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Pwy yw hon a welir fel y wawr, yn deg fel y lleuad, yn bur fel yr haul, yn ofnadwy fel llu banerog?

11. Euthum i waered i'r ardd gnau, i edrych am ffrwythydd y dyffryn, i weled a flodeuasai y winwydden, a flodeuasai y pomgranadau.

12. Heb wybod i mi y'm gwnaeth fy enaid megis cerbydau Amminadib.

13. Dychwel, dychwel, y Sulamees; dychwel, dychwel, fel yr edrychom arnat. Beth a welwch chwi yn y Sulamees? Megis tyrfa dau lu.

Caniad Solomon 6