1. Rhosyn Saron, a lili y dyffrynnoedd, ydwyf fi.
2. Megis lili ymysg y drain, felly y mae fy anwylyd ymysg y merched.
3. Megis pren afalau ymysg prennau y coed, felly y mae fy anwylyd ymhlith y meibion: bu dda gennyf eistedd dan ei gysgod ef, a'i ffrwyth oedd felys i'm genau.
4. Efe a'm dug i'r gwindy, a'i faner drosof ydoedd gariad.
5. Cynheliwch fi รข photelau, cysurwch fi ag afalau; canys claf ydwyf fi o gariad.
6. Ei law aswy sydd dan fy mhen, a'i ddeheulaw sydd yn fy nghofleidio.