6. Nac edrychwch arnaf, am fy mod yn ddu, ac am i'r haul edrych arnaf: meibion fy mam a ddigiasant wrthyf, gosodasant fi i gadw gwinllannoedd eraill; fy ngwinllan fy hun nis cedwais.
7. Mynega i mi, yr hwn a hoffodd fy enaid, pa le yr wyt yn bugeilio, pa le y gwnei iddynt orwedd ganol dydd: canys paham y byddaf megis un yn troi heibio wrth ddiadellau dy gyfeillion?
8. Oni wyddost ti, y decaf o'r gwragedd, dos allan rhagot ar hyd ôl y praidd, a phortha dy fynnod gerllaw pebyll y bugeiliaid.
9. I'r meirch yng ngherbydau Pharo y'th gyffelybais, fy anwylyd.
10. Hardd yw dy ruddiau gan dlysau, a'th wddf gan gadwyni.
11. Tlysau o aur, a boglynnau o arian, a wnawn i ti.
12. Tra yw y brenin ar ei fwrdd, fy nardus i a rydd ei arogl.
13. Fy anwylyd sydd i mi yn bwysi myrr; rhwng fy mronnau yr erys dros nos.
14. Cangen o rawn camffir yw fy anwylyd i mi, yng ngwinllannoedd Engedi.
15. Wele di yn deg, fy anwylyd, wele di yn deg; y mae i ti lygaid colomennod.
16. Wele di, fy anwylyd, yn deg, ac yn hawddgar; ein gwely hefyd sydd iraidd.