Barnwyr 9:44-55 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

44. Ac Abimelech, a'r fyddin oedd gydag ef, a ruthrasant, ac a safasant wrth ddrws porth y ddinas: a'r ddwy fyddin eraill a ruthrasant ar yr holl rai oedd yn y maes, ac a'u trawsant hwy.

45. Ac Abimelech a ymladdodd yn erbyn y ddinas yr holl ddiwrnod hwnnw: ac efe a enillodd y ddinas, ac a laddodd y bobl oedd ynddi, ac a ddistrywiodd y ddinas, ac a'i heuodd â halen.

46. A phan glybu holl wŷr tŵr Sichem hynny, hwy a aethant i amddiffynfa tŷ duw Berith.

47. A mynegwyd i Abimelech, ymgasglu o holl wŷr tŵr Sichem.

48. Ac Abimelech a aeth i fyny i fynydd Salmon, efe a'r holl bobl oedd gydag ef: ac Abimelech a gymerth fwyell yn ei law, ac a dorrodd gangen o'r coed, ac a'i cymerth hi, ac a'i gosododd ar ei ysgwydd; ac a ddywedodd wrth y bobl oedd gydag ef, Yr hyn a welsoch fi yn ei wneuthur, brysiwch, gwnewch fel finnau.

49. A'r holl bobl a dorasant bob un ei gangen, ac a aethant ar ôl Abimelech; ac a'u gosodasant wrth yr amddiffynfa, ac a losgasant â hwynt yr amddiffynfa â thân: felly holl wŷr tŵr Sichem a fuant feirw, ynghylch mil o wŷr a gwragedd.

50. Yna Abimelech a aeth i Thebes; ac a wersyllodd yn erbyn Thebes, ac a'i henillodd hi.

51. Ac yr oedd tŵr cadarn yng nghanol y ddinas; a'r holl wŷr a'r gwragedd, a'r holl rai o'r ddinas, a ffoesant yno, ac a gaea ant arnynt, ac a ddringasant ar nen y tŵr.

52. Ac Abimelech a ddaeth at y tŵr, ac a ymladdodd yn ei erbyn; ac a nesaodd at ddrws y tŵr, i'w losgi ef â thân.

53. A rhyw wraig a daflodd ddarn o faen melin ar ben Abimelech, ac a ddrylliodd ei benglog ef.

54. Yna efe a alwodd yn fuan ar y llanc oedd yn dwyn ei arfau ef, ac a ddywedodd wrtho, Tyn dy gleddyf, a lladd fi; fel na ddywedant amdanaf, Gwraig a'i lladdodd ef. A'i lanc a'i trywanodd ef, ac efe a fu farw.

55. A phan welodd gwŷr Israel farw o Abimelech, hwy a aethant bob un i'w fangre.

Barnwyr 9