36. A phan welodd Gaal y bobl, efe a ddywedodd wrth Sebul, Wele bobl yn dyfod i waered o ben y mynyddoedd. A dywedodd Sebul wrtho, Cysgod y mynyddoedd yr ydwyt ti yn ei weled fel dynion.
37. A Gaal a chwanegodd eto lefaru, ac a ddywedodd, Wele bobl yn dyfod i waered o ganol y tir, a byddin arall yn dyfod o ffordd gwastadedd Meonenim.
38. Yna y dywedodd Sebul wrtho ef, Pa le yn awr y mae dy enau di, â'r hwn y dywedaist, Pwy yw Abimelech, pan wasanaethem ef? onid dyma'r bobl a ddirmygaist ti? dos allan, atolwg, yn awr, ac ymladd i'w herbyn.
39. A Gaal a aeth allan o flaen gwŷr Sichem, ac a ymladdodd ag Abimelech.
40. Ac Abimelech a'i herlidiodd ef, ac efe a ffodd o'i flaen ef; a llawer a gwympasant yn archolledig hyd ddrws y porth.
41. Ac Abimelech a drigodd yn Aruma: a Sebul a yrrodd ymaith Gaal a'i frodyr o breswylio yn Sichem.
42. A thrannoeth y daeth y bobl allan i'r maes: a mynegwyd hynny i Abimelech.
43. Ac efe a gymerth y bobl, ac a'u rhannodd yn dair byddin, ac a gynllwynodd yn y maes, ac a edrychodd, ac wele y bobl wedi dyfod allan o'r ddinas; ac efe a gyfododd yn eu herbyn, ac a'u trawodd hwynt.