Barnwyr 9:31-44 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

31. Ac efe a anfonodd genhadau at Abimelech yn ddirgel, gan ddywedyd, Wele Gaal mab Ebed a'i frodyr wedi dyfod i Sichem; ac wele hwynt yn cadarnhau y ddinas i'th erbyn.

32. Gan hynny cyfod yn awr liw nos, ti a'r bobl sydd gyda thi, a chynllwyn yn y maes:

33. A chyfod yn fore ar godiad yr haul, a rhuthra yn erbyn y ddinas: ac wele, pan ddelo efe a'r bobl sydd gydag ef allan i'th erbyn, yna gwna iddo yr hyn a ellych.

34. Ac Abimelech a gyfododd, a'r holl bobl y rhai oedd gydag ef, liw nos, ac a gynllwynasant yn erbyn Sichem yn bedair byddin.

35. A Gaal mab Ebed a aeth allan, ac a safodd wrth ddrws porth y ddinas: ac Abimelech a gyfododd, a'r bobl y rhai oedd gydag ef, o'r cynllwyn.

36. A phan welodd Gaal y bobl, efe a ddywedodd wrth Sebul, Wele bobl yn dyfod i waered o ben y mynyddoedd. A dywedodd Sebul wrtho, Cysgod y mynyddoedd yr ydwyt ti yn ei weled fel dynion.

37. A Gaal a chwanegodd eto lefaru, ac a ddywedodd, Wele bobl yn dyfod i waered o ganol y tir, a byddin arall yn dyfod o ffordd gwastadedd Meonenim.

38. Yna y dywedodd Sebul wrtho ef, Pa le yn awr y mae dy enau di, â'r hwn y dywedaist, Pwy yw Abimelech, pan wasanaethem ef? onid dyma'r bobl a ddirmygaist ti? dos allan, atolwg, yn awr, ac ymladd i'w herbyn.

39. A Gaal a aeth allan o flaen gwŷr Sichem, ac a ymladdodd ag Abimelech.

40. Ac Abimelech a'i herlidiodd ef, ac efe a ffodd o'i flaen ef; a llawer a gwympasant yn archolledig hyd ddrws y porth.

41. Ac Abimelech a drigodd yn Aruma: a Sebul a yrrodd ymaith Gaal a'i frodyr o breswylio yn Sichem.

42. A thrannoeth y daeth y bobl allan i'r maes: a mynegwyd hynny i Abimelech.

43. Ac efe a gymerth y bobl, ac a'u rhannodd yn dair byddin, ac a gynllwynodd yn y maes, ac a edrychodd, ac wele y bobl wedi dyfod allan o'r ddinas; ac efe a gyfododd yn eu herbyn, ac a'u trawodd hwynt.

44. Ac Abimelech, a'r fyddin oedd gydag ef, a ruthrasant, ac a safasant wrth ddrws porth y ddinas: a'r ddwy fyddin eraill a ruthrasant ar yr holl rai oedd yn y maes, ac a'u trawsant hwy.

Barnwyr 9