18. A chwithau a gyfodasoch yn erbyn tŷ fy nhad i heddiw, ac a laddasoch ei feibion ef, sef dengwr a thrigain, ar un garreg, ac a osodasoch Abimelech, mab ei lawforwyn ef, yn frenin ar wŷr Sichem, oherwydd ei fod ef yn frawd i chwi:)
19. Gan hynny, os mewn gwirionedd a phurdeb y gwnaethoch â Jerwbbaal, ac â'i dŷ ef, y dydd hwn; llawenychwch yn Abimelech, a llawenyched yntau ynoch chwithau:
20. Ac onid e, eled tân allan o Abimelech, ac ysed wŷr Sichem, a thŷ Milo; hefyd eled tân allan o wŷr Sichem, ac o dŷ Milo, ac ysed Abimelech.
21. A Jotham a giliodd, ac a ffodd, ac a aeth ymaith i Beer, ac a drigodd yno, rhag ofn Abimelech ei frawd.
22. Ac Abimelech a deyrnasodd ar Israel dair blynedd.
23. A Duw a ddanfonodd ysbryd drwg rhwng Abimelech a gwŷr Sichem; a gwŷr Sichem a aethant yn anghywir i Abimelech:
24. Fel y delai y traha a wnaethid â deng mab a thrigain Jerwbbaal, ac y gosodid eu gwaed hwynt ar Abimelech eu brawd, yr hwn a'u lladdodd hwynt ac ar wŷr Sichem, y rhai a'i cynorthwyasant ef i ladd ei frodyr.
25. A gwŷr Sichem a osodasant iddo ef gynllwynwyr ar ben y mynyddoedd; a hwy a ysbeiliasant bawb a'r a oedd yn tramwy heibio iddynt ar hyd y ffordd. A mynegwyd hynny i Abimelech.
26. A Gaal mab Ebed a ddaeth, efe a'i frodyr, ac a aethant drosodd i Sichem: a gwŷr Sichem a roesant eu hyder arno.
27. A hwy a aethant i'r meysydd, ac a gasglasant eu gwinllannoedd, ac a sangasant eu grawnwin, ac a wnaethant yn llawen, ac a aethant i mewn i dŷ eu duw, ac a fwytasant ac a yfasant, ac a felltithiasant Abimelech.
28. A Gaal mab Ebed a ddywedodd, Pwy yw Abimelech, a phwy yw Sichem, fel y gwasanaethem ef? onid mab Jerwbbaal yw efe? onid Sebul yw ei swyddog? gwasanaethwch wŷr Hemor tad Sichem: canys paham y gwasanaethem ni ef?
29. O na byddai y bobl hyn dan fy llaw i, fel y bwriwn ymaith Abimelech! Ac efe a ddywedodd wrth Abimelech, Amlha dy lu, a thyred allan.
30. A phan glybu Sebul, llywodraethwr y ddinas, eiriau Gaal mab Ebed, y llidiodd ei ddicllonedd ef.
31. Ac efe a anfonodd genhadau at Abimelech yn ddirgel, gan ddywedyd, Wele Gaal mab Ebed a'i frodyr wedi dyfod i Sichem; ac wele hwynt yn cadarnhau y ddinas i'th erbyn.