25. A dywedasant, Gan roddi y rhoddwn hwynt. A lledasant ryw wisg, a thaflasant yno bob un glustlws ei ysglyfaeth.
26. A phwys y clustlysau aur a ofynasai efe, oedd fil a saith gant o siclau aur; heblaw y colerau, a'r arogl‐bellennau, a'r gwisgoedd porffor, y rhai oedd am frenhinoedd Midian; ac heblaw y tyrch oedd am yddfau eu camelod hwynt.
27. A Gedeon a wnaeth ohonynt effod, ac a'i gosododd yn ei ddinas ei hun, Offra: a holl Israel a buteiniasant ar ei hôl hi yno: a bu hynny yn dramgwydd i Gedeon, ac i'w dŷ.
28. Felly y darostyngwyd Midian o flaen meibion Israel, fel na chwanegasant godi eu pennau. A'r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd yn nyddiau Gedeon.
29. A Jerwbbaal mab Joas a aeth, ac a drigodd yn ei dŷ ei hun.
30. Ac i Gedeon yr oedd deng mab a thrigain, a ddaethai o'i gorff ef: canys gwragedd lawer oedd iddo ef.
31. A'i ordderchwraig ef, yr hon oedd yn Sichem, a ymddûg hefyd iddo fab: ac efe a osododd ei enw ef yn Abimelech.
32. Felly Gedeon mab Joas a fu farw mewn oedran teg, ac a gladdwyd ym meddrod Joas ei dad, yn Offra yr Abiesriaid.
33. A phan fu farw Gedeon, yna meibion Israel a ddychwelasant, ac a buteiniasant ar ôl Baalim; ac a wnaethant Baal‐berith yn dduw iddynt.
34. Felly meibion Israel ni chofiasant yr Arglwydd eu Duw, yr hwn a'u gwaredasai hwynt o law eu holl elynion o amgylch;
35. Ac ni wnaethant garedigrwydd â thŷ Jerwbbaal, sef Gedeon, yn ôl yr holl ddaioni a wnaethai efe i Israel.