Barnwyr 8:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A gwŷr Effraim a ddywedasant wrtho ef, Paham y gwnaethost y peth hyn â ni, heb alw arnom ni pan aethost i ymladd yn erbyn y Midianiaid? A hwy a'i dwrdiasant ef yn dost.

2. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Beth a wneuthum i yn awr wrth a wnaethoch chwi? Onid gwell yw lloffiad grawnwin Effraim, na chasgliad grawnwin Abieser?

3. Duw a roddodd yn eich llaw chwi dywysogion Midian, Oreb a Seeb: a pheth a allwn i ei wneuthur wrth a wnaethoch chwi? Yna yr arafodd eu dig hwynt tuag ato ef, pan lefarodd efe y gair hwn.

4. A daeth Gedeon i'r Iorddonen; ac a aeth drosti hi, efe a'r tri channwr oedd gydag ef, yn ddiffygiol, ac eto yn eu herlid hwy.

5. Ac efe a ddywedodd wrth wŷr Succoth, Rhoddwch, atolwg, dorthau o fara i'r bobl sydd i'm canlyn i: canys lluddedig ydynt hwy; a minnau yn erlid ar ôl Seba a Salmunna, brenhinoedd Midian.

6. A dywedodd tywysogion Succoth, A yw llaw Seba a Salmunna yn awr yn dy law di, fel y rhoddem ni fara i'th lu di?

7. A dywedodd Gedeon, Oherwydd hynny, pan roddo yr Arglwydd Seba a Salmunna yn fy llaw i, yna y drylliaf eich cnawd chwi â drain yr anialwch, ac â mieri.

8. Ac efe a aeth i fyny oddi yno i Penuel, ac a lefarodd wrthynt hwythau yn yr un modd. A gwŷr Penuel a'i hatebasant ef fel yr atebasai gwŷr Succoth.

9. Ac efe a lefarodd hefyd wrth wŷr Penuel, gan ddywedyd, Pan ddychwelwyf mewn heddwch, mi a ddistrywiaf y tŵr yma.

10. A Seba a Salmunna oedd yn Carcor, a'u lluoedd gyda hwynt, ynghylch pymtheng mil, yr hyn oll a adawsid o holl fyddin meibion y dwyrain: canys lladdwyd cant ac ugain mil o wŷr yn tynnu cleddyf.

11. A Gedeon a aeth i fyny ar hyd ffordd y rhai oedd yn trigo mewn pebyll, o'r tu dwyrain i Noba a Jogbeha: ac efe a drawodd y fyddin: canys y fyddin oedd ysgafala.

Barnwyr 8