Barnwyr 7:19-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Felly Gedeon a ddaeth i mewn, a'r cannwr oedd gydag ef, i gwr y gwersyll, yn nechrau'r wyliadwriaeth ganol, a'r gwylwyr wedi eu newydd osod, ac a utganasant mewn utgyrn, ac a ddrylliasant y piserau oedd yn eu dwylo.

20. A'r tair byddin a utganasant mewn utgyrn, ac a ddrylliasant y piserau, ac a ddaliasant y lampau yn eu llaw aswy, a'r utgyrn yn eu llaw ddeau i utganu: a hwy a lefasant, Cleddyf yr Arglwydd a Gedeon.

21. A safasant bob un yn ei le, o amgylch y gwersyll: a'r holl wersyll a redodd, ac a waeddodd, ac a ffodd.

22. A'r tri chant a utganasant ag utgyrn; a'r Arglwydd a osododd gleddyf pob un yn erbyn ei gilydd, trwy'r holl wersyll: felly y gwersyll a ffodd hyd Beth‐sitta, yn Sererath, hyd fin Abel‐mehola, hyd Tabbath.

23. A gwŷr Israel a ymgasglasant, o Nafftali, ac o Aser, ac o holl Manasse, ac a erlidiasant ar ôl y Midianiaid.

24. A Gedeon a anfonodd genhadau trwy holl fynydd Effraim, gan ddywedyd, Deuwch i waered yn erbyn y Midianiaid, ac achubwch o'u blaen hwynt y dyfroedd hyd Beth‐bara a'r Iorddonen: a holl wŷr Effraim a ymgasglasant, ac a enillasant y dyfroedd hyd Beth‐bara a'r Iorddonen.

Barnwyr 7