Barnwyr 7:1-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna Jerwbbaal, hwnnw yw Gedeon, a gyfododd yn fore, a'r holl bobl y rhai oedd gydag ef, ac a wersyllasant wrth ffynnon Harod: a gwersyll y Midianiaid oedd o du y gogledd iddynt, wrth fryn More, yn y dyffryn.

2. A dywedodd yr Arglwydd wrth Gedeon, Rhy luosog yw y bobl sydd gyda thi, i mi i roddi y Midianiaid yn eu dwylo; rhag i Israel ymogoneddu i'm herbyn, gan ddywedyd, Fy llaw fy hun a'm gwaredodd.

3. Am hynny, yn awr, cyhoedda lle y clywo y bobl, gan ddywedyd, Yr hwn sydd ofnus ac arswydus, dychweled ac ymadawed y bore o fynydd Gilead. A dychwelodd o'r bobl ddwy fil ar hugain, a deng mil a arosasant.

4. A dywedodd yr Arglwydd wrth Gedeon, Eto y mae gormod o bobl. Dwg hwynt i waered at y dyfroedd, a mi a'u profaf hwynt yno i ti: ac am yr hwn y dywedwyf wrthyt, Hwn a â gyda thi, eled hwnnw gyda thi; ac am bwy bynnag y dywedwyf wrthyt, Hwn nid â gyda thi, nac eled hwnnw gyda thi.

5. Felly efe a ddygodd y bobl i waered at y dyfroedd. A dywedodd yr Arglwydd wrth Gedeon, Pob un a lepio â'i dafod o'r dwfr fel y llepio ci, gosod ef o'r neilltu; a phob un a ymgrymo ar ei liniau i yfed.

6. A rhifedi y rhai a godasant y dwfr â'u llaw at eu genau, oedd dri channwr: a'r holl bobl eraill a ymgrymasant ar eu gliniau i yfed dwfr.

7. A dywedodd yr Arglwydd wrth Gedeon, Trwy'r tri channwr a lepiasant y dwfr, y gwaredaf chwi, ac y rhoddaf y Midianiaid yn dy law di: ac eled yr holl bobl eraill bob un i'w fangre ei hun.

8. Felly y bobl a gymerasant fwyd yn eu dwylo, a'u hutgyrn; a Gedeon a ollyngodd ymaith holl wŷr Israel, pob un i'w babell, a'r tri channwr a ataliodd efe: a gwersyll y Midianiaid oedd oddi tanodd iddo yn y dyffryn.

9. A'r noson honno y dywedodd yr Arglwydd wrtho ef, Cyfod, dos i waered i'r gwersyll; canys mi a'i rhoddais yn dy law di.

10. Ac od wyt yn ofni myned i waered, dos di a Phura dy lanc i waered i'r gwersyll:

11. A chei glywed beth a ddywedant; fel yr ymnertho wedi hynny dy ddwylo, ac yr elych i waered i'r gwersyll. Yna efe a aeth i waered, a Phura ei lanc, i gwr y rhai arfogion oedd yn y gwersyll.

12. A'r Midianiaid, a'r Amaleciaid, a holl feibion y dwyrain, oedd yn gorwedd yn y dyffryn fel locustiaid o amldra; a'u camelod oedd heb rif, fel y tywod sydd ar fin y môr o amldra.

13. A phan ddaeth Gedeon, wele ŵr yn mynegi i'w gyfaill freuddwyd, ac yn dywedyd, Wele, breuddwyd a freuddwydiais; ac wele dorth o fara haidd yn ymdreiglo i wersyll y Midianiaid, a hi a ddaeth hyd at babell, ac a'i trawodd fel y syrthiodd, a hi a'i hymchwelodd, fel y syrthiodd y babell.

14. A'i gyfaill a atebodd ac a ddywedodd, Nid yw hyn ddim ond cleddyf Gedeon mab Joas, gŵr o Israel: Duw a roddodd Midian a'i holl fyddin yn ei law ef.

15. A phan glybu Gedeon adroddiad y breuddwyd, a'i ddirnad, efe a addolodd, ac a ddychwelodd i wersyll Israel; ac a ddywedodd, Cyfodwch: canys rhoddodd yr Arglwydd fyddin y Midianiaid yn eich llaw chwi.

16. Ac efe a rannodd y tri channwr yn dair byddin, ac a roddodd utgyrn yn llaw pawb ohonynt, a phiserau gwag, a lampau yng nghanol y piserau.

17. Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Edrychwch arnaf fi, a gwnewch yr un ffunud: ac wele, pan ddelwyf i gwr y gwersyll, yna fel y gwnelwyf fi, gwnewch chwithau.

Barnwyr 7