Barnwyr 6:22-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. A phan welodd Gedeon mai angel yr Arglwydd oedd efe, y dywedodd Gedeon, Och, O Arglwydd Dduw! oherwydd i mi weled angel yr Arglwydd wyneb yn wyneb.

23. A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Tangnefedd i ti: nac ofna; ni byddi farw.

24. Yna Gedeon a adeiladodd yno allor i'r Arglwydd, ac a'i galwodd Jehofah-shalom: hyd y dydd hwn y mae hi eto yn Offra eiddo yr Abiesriaid.

25. A'r noson honno y dywedodd yr Arglwydd wrtho ef, Cymer y bustach sydd eiddo dy dad, sef yr ail fustach saith mlwydd oed; a bwrw i lawr allor Baal yr hon sydd eiddo dy dad, a thor i lawr y llwyn sydd yn ei hymyl hi:

26. Ac adeilada allor i'r Arglwydd dy Dduw ar ben y graig hon, yn y lle trefnus; a chymer yr ail fustach, ac offryma boethoffrwm â choed y llwyn, yr hwn a dorri di.

27. Yna Gedeon a gymerodd ddengwr o'i weision, ac a wnaeth fel y llefarasai yr Arglwydd wrtho: ac oherwydd ei fod yn ofni teulu ei dad, a gwŷr y ddinas, fel nas gallai wneuthur hyn liw dydd, efe a'i gwnaeth liw nos.

28. A phan gyfododd gwŷr y ddinas y bore, yna wele allor Baal wedi ei bwrw i lawr, a'r llwyn yr hwn oedd yn ei hymyl wedi ei dorri, a'r ail fustach wedi ei offrymu ar yr allor a adeiladasid.

Barnwyr 6