21. Yna angel yr Arglwydd a estynnodd flaen y ffon oedd yn ei law, ac a gyffyrddodd â'r cig, ac â'r bara croyw: a'r tân a ddyrchafodd o'r graig, ac a ysodd y cig, a'r bara croyw. Ac angel yr Arglwydd a aeth ymaith o'i olwg ef.
22. A phan welodd Gedeon mai angel yr Arglwydd oedd efe, y dywedodd Gedeon, Och, O Arglwydd Dduw! oherwydd i mi weled angel yr Arglwydd wyneb yn wyneb.
23. A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Tangnefedd i ti: nac ofna; ni byddi farw.
24. Yna Gedeon a adeiladodd yno allor i'r Arglwydd, ac a'i galwodd Jehofah-shalom: hyd y dydd hwn y mae hi eto yn Offra eiddo yr Abiesriaid.
25. A'r noson honno y dywedodd yr Arglwydd wrtho ef, Cymer y bustach sydd eiddo dy dad, sef yr ail fustach saith mlwydd oed; a bwrw i lawr allor Baal yr hon sydd eiddo dy dad, a thor i lawr y llwyn sydd yn ei hymyl hi:
26. Ac adeilada allor i'r Arglwydd dy Dduw ar ben y graig hon, yn y lle trefnus; a chymer yr ail fustach, ac offryma boethoffrwm â choed y llwyn, yr hwn a dorri di.
27. Yna Gedeon a gymerodd ddengwr o'i weision, ac a wnaeth fel y llefarasai yr Arglwydd wrtho: ac oherwydd ei fod yn ofni teulu ei dad, a gwŷr y ddinas, fel nas gallai wneuthur hyn liw dydd, efe a'i gwnaeth liw nos.
28. A phan gyfododd gwŷr y ddinas y bore, yna wele allor Baal wedi ei bwrw i lawr, a'r llwyn yr hwn oedd yn ei hymyl wedi ei dorri, a'r ail fustach wedi ei offrymu ar yr allor a adeiladasid.
29. A dywedodd pawb wrth ei gilydd, Pwy a wnaeth y peth hyn? Ac wedi iddynt ymofyn a chwilio, y dywedasant, Gedeon mab Joas a wnaeth y peth hyn.
30. Yna gwŷr y ddinas a ddywedasant wrth Joas, Dwg allan dy fab, fel y byddo marw: am iddo fwrw i lawr allor Baal, ac am iddo dorri'r llwyn oedd yn ei hymyl hi.