Barnwyr 6:1-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Meibion Israel a wnaethant ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd: a'r Arglwydd a'u rhoddodd hwynt yn llaw Midian saith mlynedd.

2. A llaw Midian a orthrechodd Israel: a rhag y Midianiaid meibion Israel a wnaethant iddynt y llochesau sydd yn y mynyddoedd, a'r ogofeydd, a'r amddiffynfaoedd.

3. A phan heuasai Israel, yna Midian a ddaeth i fyny, ac Amalec, a meibion y dwyrain; hwy a ddaethant i fyny yn eu herbyn hwy:

4. Ac a wersyllasant yn eu herbyn hwynt, ac a ddinistriasant gnwd y ddaear, hyd oni ddelych i Gasa; ac ni adawsant ddim ymborth yn Israel, na dafad, nac eidion, nac asyn.

5. Canys hwy a ddaethant i fyny â'u hanifeiliaid, ac â'u pebyll, a daethant fel locustiaid o amldra; ac nid oedd rifedi arnynt hwy, nac ar eu camelod: a hwy a ddaethant i'r wlad i'w distrywio hi.

6. Ac Israel a aeth yn dlawd iawn o achos y Midianiaid: a meibion Israel a lefasant ar yr Arglwydd.

7. A phan lefodd meibion Israel ar yr Arglwydd oblegid y Midianiaid,

8. Yr Arglwydd a anfonodd broffwydwr at feibion Israel, yr hwn a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel; Myfi a'ch dygais chwi i fyny o'r Aifft, ac a'ch arweiniais chwi o dŷ y caethiwed;

9. Ac a'ch gwaredais chwi o law yr Eifftiaid, ac o law eich holl orthrymwyr; gyrrais hwynt allan o'ch blaen chwi, a rhoddais eu tir hwynt i chwi:

10. A dywedais wrthych, Myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi; nac ofnwch dduwiau yr Amoriaid, y rhai yr ydych yn trigo yn eu gwlad: ond ni wrandawsoch ar fy llais i.

11. Ac angel yr Arglwydd a ddaeth, ac a eisteddodd dan dderwen oedd yn Offra, yr hon oedd eiddo Joas yr Abiesriad: a Gedeon ei fab ef oedd yn dyrnu gwenith wrth y gwinwryf, i'w guddio rhag y Midianiaid.

12. Ac angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo ef, ac a ddywedodd wrtho, Yr Arglwydd sydd gyda thi, ŵr cadarn nerthol.

13. A Gedeon a ddywedodd wrtho, O fy arglwydd, od yw yr Arglwydd gyda ni, paham y digwyddodd hyn oll i ni? a pha le y mae ei holl ryfeddodau ef, y rhai a fynegodd ein tadau i ni, gan ddywedyd, Oni ddug yr Arglwydd ni i fyny o'r Aifft? Ond yn awr yr Arglwydd a'n gwrthododd ni, ac a'n rhoddodd i law y Midianiaid.

14. A'r Arglwydd a edrychodd arno ef, ac a ddywedodd, Dos yn dy rymustra yma; a thi a waredi Israel o law y Midianiaid: oni anfonais i dydi?

15. Dywedodd yntau wrtho ef, O fy arglwydd, pa fodd y gwaredaf fi Israel? Wele fy nheulu yn dlawd ym Manasse, a minnau yn lleiaf yn nhŷ fy nhad.

16. A dywedodd yr Arglwydd wrtho ef, Diau y byddaf fi gyda thi; a thi a drewi y Midianiaid fel un gŵr.

Barnwyr 6