Barnwyr 4:13-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. A Sisera a gynullodd ei holl gerbydau, sef naw can cerbyd haearn, a'r holl bobl y rhai oedd gydag ef, o Haroseth y cenhedloedd hyd afon Cison.

14. A Debora a ddywedodd wrth Barac, Cyfod; canys hwn yw y dydd y rhoddodd yr Arglwydd Sisera yn dy law di: onid aeth yr Arglwydd allan o'th flaen di? Felly Barac a ddisgynnodd o fynydd Tabor, a deng mil o wŷr ar ei ôl.

15. A'r Arglwydd a ddrylliodd Sisera, a'i holl gerbydau, a'i holl fyddin, â min y cleddyf, o flaen Barac: a Sisera a ddisgynnodd oddi ar ei gerbyd, ac a ffodd ar ei draed.

16. Ond Barac a erlidiodd ar ôl y cerbydau, ac ar ôl y fyddin, hyd Haroseth y cenhedloedd: a holl lu Sisera a syrthiodd ar fin y cleddyf: ni adawyd un ohonynt.

17. Ond Sisera a ffodd ar ei draed i babell Jael, gwraig Heber y Cenead: canys yr oedd heddwch rhwng Jabin brenin Hasor a thŷ Heber y Cenead.

18. A Jael a aeth i gyfarfod â Sisera; ac a ddywedodd wrtho, Tro i mewn, fy arglwydd, tro i mewn ataf fi; nac ofna. Yna efe a drodd ati i'r babell, a hi a'i gorchuddiodd ef â gwrthban.

19. Ac efe a ddywedodd wrthi, Dioda fi, atolwg, ag ychydig ddwfr; canys sychedig wyf. Yna hi a agorodd gunnog o laeth, ac a'i diododd ef, ac a'i gorchuddiodd.

20. Dywedodd hefyd wrthi, Saf wrth ddrws y babell; ac os daw neb i mewn, a gofyn i ti, a dywedyd, A oes yma neb? yna dywed dithau, Nac oes.

21. Yna Jael gwraig Heber a gymerth hoel o'r babell, ac a gymerodd forthwyl yn ei llaw, ac a aeth i mewn ato ef yn ddistaw, ac a bwyodd yr hoel yn ei arlais ef, ac a'i gwthiodd i'r ddaear; canys yr oedd efe yn cysgu, ac yn lluddedig; ac felly y bu efe farw.

22. Ac wele, a Barac yn erlid Sisera, Jael a aeth i'w gyfarfod ef; ac a ddywedodd wrtho, Tyred, a mi a ddangosaf i ti y gŵr yr wyt ti yn ei geisio. Ac efe a ddaeth i mewn ati; ac wele Sisera yn gorwedd yn farw, a'r hoel yn ei arlais.

23. Felly y darostyngodd Duw y dwthwn hwnnw Jabin brenin Canaan o flaen meibion Israel.

24. A llaw meibion Israel a lwyddodd, ac a orchfygodd Jabin brenin Canaan, nes iddynt ddistrywio Jabin brenin Canaan.

Barnwyr 4