Barnwyr 4:1-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Meibion Israel a chwanegasant wneuthur drygioni yng ngolwg yr Arglwydd, wedi marw Ehwd.

2. A'r Arglwydd a'u gwerthodd hwynt i law Jabin brenin Canaan, yr hwn oedd yn teyrnasu yn Hasor: a thywysog ei lu ef oedd Sisera; ac efe oedd yn trigo yn Haroseth y cenhedloedd.

3. A meibion Israel a lefasant ar yr Arglwydd: canys naw can cerbyd haearn oedd ganddo ef; ac efe a orthrymodd feibion Israel yn dost ugain mlynedd.

4. A Debora y broffwydes, gwraig Lapidoth, hyhi oedd yn barnu Israel yr amser hwnnw.

5. Ac yr oedd hi yn trigo dan balmwydden Debora, rhwng Rama a Bethel, ym mynydd Effraim: a meibion Israel a ddeuent i fyny ati hi am farn.

6. A hi a anfonodd, ac a alwodd am Barac mab Abinoam, o Cedes‐Nafftali; ac a ddywedodd wrtho, Oni orchmynnodd Arglwydd Dduw Israel, gan ddywedyd, Dos, a thyn tua mynydd Tabor, a chymer gyda thi ddeng mil o wŷr, o feibion Nafftali, ac o feibion Sabulon?

7. A mi a dynnaf atat, i afon Cison, Sisera tywysog llu Jabin, a'i gerbydau, a'i liaws; ac a'i rhoddaf ef yn dy law di.

8. A Barac a ddywedodd wrthi, Od ei di gyda mi, minnau a af; ac onid ei gyda mi, nid af.

9. A hi a ddywedodd, Gan fyned yr af gyda thi: eto ni bydd gogoniant i ti yn y daith yr wyt yn myned iddi; canys yn llaw gwraig y gwerth yr Arglwydd Sisera. A Debora a gyfododd, ac a aeth gyda Barac i Cedes.

10. A Barac a gynullodd Sabulon a Nafftali i Cedes; ac a aeth i fyny â deng mil o wŷr wrth ei draed: a Debora a aeth i fyny gydag ef.

11. A Heber y Cenead, o feibion Hobab, chwegrwn Moses, a ymneilltuasai oddi wrth y Ceneaid, ac a ledasai ei babell hyd wastadedd Saanaim, yr hwn sydd yn ymyl Cedes.

12. A mynegasant i Sisera, fyned o Barac mab Abinoam i fyny i fynydd Tabor.

13. A Sisera a gynullodd ei holl gerbydau, sef naw can cerbyd haearn, a'r holl bobl y rhai oedd gydag ef, o Haroseth y cenhedloedd hyd afon Cison.

Barnwyr 4