Barnwyr 21:10-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. A'r gynulleidfa a anfonasant yno ddeuddeng mil o wŷr grymus; ac a orchmynasant iddynt, gan ddywedyd, Ewch a threwch breswylwyr Jabes Gilead â min y cleddyf, y gwragedd hefyd a'r plant.

11. Dyma hefyd y peth a wnewch chwi: Difethwch bob gwryw, a phob gwraig a orweddodd gyda gŵr.

12. A hwy a gawsant ymhlith trigolion Jabes Gilead, bedwar cant o lancesau yn wyryfon, y rhai nid adnabuasent ŵr trwy gydorwedd â gŵr: a dygasant hwynt i'r gwersyll i Seilo, yr hon sydd yng ngwlad Canaan.

13. A'r holl gynulleidfa a anfonasant i lefaru wrth feibion Benjamin, y rhai oedd yng nghraig Rimmon, ac i gyhoeddi heddwch iddynt.

14. A'r Benjaminiaid a ddychwelasant yr amser hwnnw; a hwy a roddasant iddynt hwy y gwragedd a gadwasent yn fyw o wragedd Jabes Gilead: ond ni chawsant hwy ddigon felly.

15. A'r bobl a edifarhaodd dros Benjamin, oherwydd i'r Arglwydd wneuthur rhwygiad yn llwythau Israel.

16. Yna henuriaid y gynulleidfa a ddywedasant, Beth a wnawn ni am wragedd i'r lleill, gan ddistrywio y gwragedd o Benjamin?

17. Dywedasant hefyd, Rhaid yw bod etifeddiaeth i'r rhai a ddihangodd o Benjamin, fel na ddileer llwyth allan o Israel.

18. Ac ni allwn ni roddi iddynt wragedd o'n merched ni: canys meibion Israel a dyngasant, gan ddywedyd, Melltigedig fyddo yr hwn a roddo wraig i Benjamin.

19. Yna y dywedasant, Wele, y mae gŵyl i'r Arglwydd bob blwyddyn yn Seilo, o du y gogledd i Bethel, tua chyfodiad haul i'r briffordd y sydd yn myned i fyny o Bethel i Sichem, ac o du y deau i Libanus.

20. Am hynny y gorchmynasant hwy i feibion Benjamin, gan ddywedyd, Ewch a chynllwynwch yn y gwinllannoedd:

21. Edrychwch hefyd; ac wele, os merched Seilo a ddaw allan i ddawnsio mewn dawnsiau; yna deuwch chwithau allan o'r gwinllannoedd, a chipiwch i chwi bob un ei wraig o ferched Seilo, ac ewch i wlad Benjamin.

22. A phan ddelo eu tadau neu eu brodyr hwynt i achwyn atom ni, yna y dywedwn wrthynt, Byddwch dda iddynt er ein mwyn ni; oblegid na chadwasom i bob un ei wraig yn y rhyfel: o achos na roddasoch chwi hwynt iddynt y pryd hwn, ni byddwch chwi euog.

23. A meibion Benjamin a wnaethant felly; a chymerasant wragedd yn ôl eu rhifedi, o'r rhai a gipiasent, ac a oeddynt yn dawnsio: a hwy a aethant ymaith, a dychwelasant i'w hetifeddiaeth, ac a adgyweiriasant y dinasoedd, ac a drigasant ynddynt.

Barnwyr 21