Barnwyr 21:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Gwŷr Israel a dyngasant ym Mispa, gan ddywedyd, Ni ddyry neb ohonom ei ferch i Benjaminiad yn wraig.

2. A daeth y bobl i dŷ Dduw, ac a arosasant yno hyd yr hwyr gerbron Duw, ac a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant ag wylofain mawr:

3. Ac a ddywedasant, O Arglwydd Dduw Israel, paham y bu y peth hyn yn Israel, fel y byddai heddiw un llwyth yn eisiau yn Israel?

Barnwyr 21