Barnwyr 20:46-48 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

46. A'r rhai oll a gwympodd o Benjamin y dwthwn hwnnw, oedd bum mil ar hugain o wŷr yn tynnu cleddyf: hwynt oll oedd wŷr nerthol.

47. Eto chwe channwr a droesant, ac a ffoesant i'r anialwch i graig Rimmon, ac a arosasant yng nghraig Rimmon bedwar mis.

48. A gwŷr Israel a ddychwelasant ar feibion Benjamin, ac a'u trawsant hwy â min y cleddyf, yn ddyn o bob dinas, ac yn anifail, a pheth bynnag a gafwyd: yr holl ddinasoedd hefyd a'r a gafwyd, a losgasant hwy â thân.

Barnwyr 20