Barnwyr 20:20-40 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. A gwŷr Israel a aethant allan i ryfel yn erbyn Benjamin; a gwŷr Israel a ymosodasant i ymladd i'w herbyn hwy wrth Gibea.

21. A meibion Benjamin a ddaethant allan o Gibea, ac a ddifethasant o Israel y dwthwn hwnnw ddwy fil ar hugain o wŷr hyd lawr.

22. A'r bobl gwŷr Israel a ymgryfhasant, ac a ymosodasant drachefn i ymladd, yn y lle yr ymosodasent ynddo y dydd cyntaf.

23. (A meibion Israel a aethent i fyny, ac a wylasent gerbron yr Arglwydd hyd yr hwyr: ymgyngorasent hefyd â'r Arglwydd, gan ddywedyd, A af fi drachefn i ryfel yn erbyn meibion Benjamin fy mrawd? A dywedasai yr Arglwydd, Dos i fyny yn ei erbyn ef.)

24. A meibion Israel a nesasant yn erbyn meibion Benjamin yr ail ddydd.

25. A Benjamin a aeth allan o Gibea i'w herbyn hwythau yr ail ddydd; a hwy a ddifethasant o feibion Israel eilwaith dair mil ar bymtheg o wŷr hyd lawr: y rhai hyn oll oedd yn tynnu cleddyf.

26. Yna holl feibion Israel a'r holl bobl a aethant i fyny ac a ddaethant i dŷ Dduw, ac a wylasant, ac a arosasant yno gerbron yr Arglwydd, ac a ymprydiasant y dwthwn hwnnw hyd yr hwyr, ac a offrymasant boethoffrymau ac offrymau hedd gerbron yr Arglwydd.

27. A meibion Israel a ymgyngorasant â'r Arglwydd, (canys yno yr oedd arch cyfamod Duw yn y dyddiau hynny;

28. A Phinees mab Eleasar, mab Aaron, oedd yn sefyll ger ei bron hi yn y dyddiau hynny;) gan ddywedyd, A chwanegaf fi mwyach fyned allan i ryfel yn erbyn meibion Benjamin fy mrawd, neu a beidiaf fi? A dywedodd yr Arglwydd, Ewch i fyny; canys yfory y rhoddaf ef yn dy law di.

29. Ac Israel a osododd gynllwynwyr o amgylch Gibea.

30. A meibion Israel a aethant i fyny yn erbyn meibion Benjamin y trydydd dydd, ac a ymosodasant wrth Gibea, fel cynt.

31. A meibion Benjamin a aethant allan yn erbyn y bobl; a thynnwyd hwynt oddi wrth y ddinas: a hwy a ddechreuasant daro rhai o'r bobl yn archolledig, fel cynt, yn y priffyrdd, o'r rhai y mae y naill yn myned i fyny i dŷ Dduw, a'r llall i Gibea yn y maes, ynghylch dengwr ar hugain o Israel.

32. A meibion Benjamin a ddywedasant, Cwympwyd hwynt o'n blaen ni, fel ar y cyntaf. Ond meibion Israel a ddywedasant, Ffown, fel y tynnom hwynt oddi wrth y ddinas i'r priffyrdd.

33. A holl wŷr Israel a gyfodasant o'u lle, ac a fyddinasant yn Baal‐tamar: a'r sawl a oedd o Israel yn cynllwyn, a ddaeth allan o'u mangre, sef o weirgloddiau Gibea.

34. A daeth yn erbyn Gibea ddeng mil o wŷr etholedig o holl Israel; a'r gad a fu dost: ond ni wyddent fod drwg yn agos atynt.

35. A'r Arglwydd a drawodd Benjamin o flaen Israel: a difethodd meibion Israel o'r Benjaminiaid, y dwthwn hwnnw, bum mil ar hugain a channwr; a'r rhai hyn oll yn tynnu cleddyf.

36. Felly meibion Benjamin a welsant mai eu lladd yr oeddid: canys gwŷr Israel a roddasant le i'r Benjaminiaid; oherwydd hyderu yr oeddynt ar y cynllwynwyr, y rhai a osodasent yn ymyl Gibea.

37. A'r cynllwynwyr a frysiasant, ac a ruthrasant ar Gibea: a'r cynllwynwyr a utganasant yn hirllaes, ac a drawsant yr holl ddinas â min y cleddyf.

38. Ac yr oedd amser nodedig rhwng gwŷr Israel a'r cynllwynwyr; sef peri ohonynt i fflam fawr a mwg ddyrchafu o'r ddinas.

39. A phan drodd gwŷr Israel eu cefnau yn y rhyfel, Benjamin a ddechreuodd daro yn archolledig o wŷr Israel ynghylch dengwr ar hugain: canys dywedasant, Diau gan daro eu taro hwynt o'n blaen ni, fel yn y cyntaf.

40. A phan ddechreuodd y fflam ddyrchafu o'r ddinas â cholofn o fwg, Benjamin a edrychodd yn ei ôl; ac wele fflam y ddinas yn dyrchafu i'r nefoedd.

Barnwyr 20