Barnwyr 18:3-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Pan oeddynt hwy wrth dŷ Mica, hwy a adnabuant lais y gŵr ieuanc y Lefiad; ac a droesant yno, ac a ddywedasant wrtho, Pwy a'th ddug di yma? a pheth yr ydwyt ti yn ei wneuthur yma? a pheth sydd i ti yma?

4. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Fel hyn ac fel hyn y gwnaeth Mica i mi; ac efe a'm cyflogodd i, a'i offeiriad ef ydwyf fi.

5. A hwy a ddywedasant wrtho ef, Ymgynghora, atolwg, â Duw, fel y gwypom a lwydda ein ffordd yr ydym ni yn rhodio arni.

6. A'r offeiriad a ddywedodd wrthynt, Ewch mewn heddwch: gerbron yr Arglwydd y mae eich ffordd chwi, yr hon a gerddwch.

7. Yna y pumwr a aethant ymaith, ac a ddaethant i Lais; ac a welsant y bobl oedd ynddi yn trigo mewn diogelwch, yn ôl arfer y Sidoniaid, yn llonydd ac yn ddiofal; ac nid oedd swyddwr yn y wlad, yr hwn a allai eu gyrru hwynt i gywilydd mewn dim: a phell oeddynt oddi wrth y Sidoniaid, ac heb negesau rhyngddynt a neb.

8. A hwy a ddaethant at eu brodyr i Sora ac Estaol. A'u brodyr a ddywedasant wrthynt, Beth a ddywedwch chwi?

9. Hwythau a ddywedasant, Cyfodwch, ac awn i fyny arnynt: canys gwelsom y wlad; ac wele, da iawn yw hi. Ai tewi yr ydych chwi? na ddiogwch fyned, i ddyfod i mewn i feddiannu'r wlad.

10. Pan eloch, chwi a ddeuwch at bobl ddiofal, a gwlad eang: canys Duw a'i rhoddodd hi yn eich llaw chwi: sef lle nid oes ynddo eisiau dim a'r y sydd ar y ddaear.

11. Ac fe aeth oddi yno, o dylwyth y Daniaid, o Sora ac o Estaol, chwe channwr, wedi ymwregysu ag arfau rhyfel.

12. A hwy a aethant i fyny, ac a wersyllasant yn Ciriath‐jearim, yn Jwda: am hynny y galwasant y fan honno Mahane-Dan, hyd y dydd hwn: wele, y mae o'r tu ôl i Ciriath‐jearim.

13. A hwy a aethant oddi yno i fynydd Effraim, ac a ddaethant hyd dŷ Mica.

14. A'r pumwr, y rhai a aethent i chwilio gwlad Lais, a lefarasant, ac a ddywedasant wrth eu brodyr, Oni wyddoch chwi fod yn y tai hyn effod a theraffim, a delw gerfiedig, a thoddedig? gan hynny ystyriwch yn awr beth a wneloch.

15. A hwy a droesant tuag yno; ac a ddaethant hyd dŷ y gŵr ieuanc y Lefiad, i dŷ Mica; ac a gyfarchasant well iddo.

16. A'r chwe channwr, y rhai oedd wedi eu gwregysu ag arfau rhyfel, oedd yn sefyll wrth ddrws y porth, sef y rhai oedd o feibion Dan.

Barnwyr 18