Barnwyr 18:19-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Hwythau a ddywedasant wrtho, Taw â sôn; gosod dy law ar dy safn, a thyred gyda ni, a bydd i ni yn dad ac yn offeiriad: ai gwell i ti fod yn offeiriad i dŷ un gŵr, na'th fod yn offeiriad i lwyth ac i deulu yn Israel?

20. A da fu gan galon yr offeiriad; ac efe a gymerth yr effod, a'r teraffim, a'r ddelw gerfiedig, ac a aeth ymysg y bobl.

21. A hwy a droesant, ac a aethant ymaith; ac a osodasant y plant, a'r anifeiliaid, a'r clud, o'u blaen.

22. A phan oeddynt hwy ennyd oddi wrth dŷ Mica, y gwŷr oedd yn y tai wrth dŷ Mica a ymgasglasant, ac a erlidiasant feibion Dan.

23. A hwy a waeddasant ar feibion Dan. Hwythau a droesant eu hwynebau, ac a ddywedasant wrth Mica, Beth a ddarfu i ti, pan wyt yn dyfod â'r fath fintai?

24. Yntau a ddywedodd, Fy nuwiau, y rhai a wneuthum i, a ddygasoch chwi ymaith, a'r offeiriad, ac a aethoch i ffordd: a pheth sydd gennyf fi mwyach? a pha beth yw hyn a ddywedwch wrthyf, Beth a ddarfu i ti?

25. A meibion Dan a ddywedasant wrtho, Na ad glywed dy lef yn ein mysg ni; rhag i wŷr dicllon ruthro arnat ti, a cholli ohonot dy einioes, ac einioes dy deulu.

26. A meibion Dan a aethant i'w ffordd. A phan welodd Mica eu bod hwy yn gryfach nag ef, efe a drodd, ac a ddychwelodd i'w dŷ.

27. A hwy a gymerasant y pethau a wnaethai Mica, a'r offeiriad oedd ganddo ef, ac a ddaethant i Lais, at bobl lonydd a diofal; ac a'u trawsant hwy â min y cleddyf, ac a losgasant y ddinas â thân.

Barnwyr 18