Barnwyr 18:14-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. A'r pumwr, y rhai a aethent i chwilio gwlad Lais, a lefarasant, ac a ddywedasant wrth eu brodyr, Oni wyddoch chwi fod yn y tai hyn effod a theraffim, a delw gerfiedig, a thoddedig? gan hynny ystyriwch yn awr beth a wneloch.

15. A hwy a droesant tuag yno; ac a ddaethant hyd dŷ y gŵr ieuanc y Lefiad, i dŷ Mica; ac a gyfarchasant well iddo.

16. A'r chwe channwr, y rhai oedd wedi eu gwregysu ag arfau rhyfel, oedd yn sefyll wrth ddrws y porth, sef y rhai oedd o feibion Dan.

17. A'r pumwr, y rhai a aethent i chwilio'r wlad, a esgynasant, ac a aethant i mewn yno; ac a ddygasant ymaith y ddelw gerfiedig, a'r effod, a'r teraffim, a'r ddelw doddedig: a'r offeiriad oedd yn sefyll wrth ddrws y porth, gyda'r chwe channwr oedd wedi ymwregysu ag arfau rhyfel.

18. A'r rhai hyn a aethant i dŷ Mica, ac a ddygasant ymaith y ddelw gerfiedig, yr effod, a'r teraffim, a'r ddelw doddedig. Yna yr offeiriad a ddywedodd wrthynt, Beth yr ydych chwi yn ei wneuthur?

19. Hwythau a ddywedasant wrtho, Taw â sôn; gosod dy law ar dy safn, a thyred gyda ni, a bydd i ni yn dad ac yn offeiriad: ai gwell i ti fod yn offeiriad i dŷ un gŵr, na'th fod yn offeiriad i lwyth ac i deulu yn Israel?

20. A da fu gan galon yr offeiriad; ac efe a gymerth yr effod, a'r teraffim, a'r ddelw gerfiedig, ac a aeth ymysg y bobl.

21. A hwy a droesant, ac a aethant ymaith; ac a osodasant y plant, a'r anifeiliaid, a'r clud, o'u blaen.

22. A phan oeddynt hwy ennyd oddi wrth dŷ Mica, y gwŷr oedd yn y tai wrth dŷ Mica a ymgasglasant, ac a erlidiasant feibion Dan.

23. A hwy a waeddasant ar feibion Dan. Hwythau a droesant eu hwynebau, ac a ddywedasant wrth Mica, Beth a ddarfu i ti, pan wyt yn dyfod â'r fath fintai?

24. Yntau a ddywedodd, Fy nuwiau, y rhai a wneuthum i, a ddygasoch chwi ymaith, a'r offeiriad, ac a aethoch i ffordd: a pheth sydd gennyf fi mwyach? a pha beth yw hyn a ddywedwch wrthyf, Beth a ddarfu i ti?

Barnwyr 18