Barnwyr 17:8-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. A'r gŵr a aeth allan o'r ddinas o Bethlehem Jwda, i drigo pa le bynnag y caffai le: ac efe a ddaeth i fynydd Effraim i dŷ Mica, yn ei ymdaith.

9. A Mica a ddywedodd wrtho, O ba le y daethost ti? Dywedodd yntau wrtho, Lefiad ydwyf o Bethlehem Jwda; a myned yr ydwyf i drigo lle caffwyf le.

10. A Mica a ddywedodd wrtho. Trig gyda mi, a bydd i mi yn dad ac yn offeiriad; a mi a roddaf i ti ddeg sicl o arian bob blwyddyn, a phâr o ddillad, a'th luniaeth. Felly y Lefiad a aeth i mewn.

11. A'r Lefiad a fu fodlon i aros gyda'r gŵr; a'r gŵr ieuanc oedd iddo fel un o'i feibion.

12. A Mica a urddodd y Lefiad; a'r gŵr ieuanc fu yn offeiriad iddo, ac a fu yn nhŷ Mica.

13. Yna y dywedodd Mica, Yn awr y gwn y gwna yr Arglwydd ddaioni i mi; gan fod Lefiad gennyf yn offeiriad.

Barnwyr 17