Barnwyr 17:3-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. A phan roddodd efe y mil a'r can sicl arian adref i'w fam, ei fam a ddywedodd, Gan gysegru y cysegraswn yr arian i'r Arglwydd o'm llaw, i'm mab, i wneuthur delw gerfiedig a thoddedig: am hynny yn awr mi a'i rhoddaf eilwaith i ti.

4. Eto efe a dalodd yr arian i'w fam. A'i fam a gymerth ddau can sicl o arian, ac a'u rhoddodd i'r toddydd; ac efe a'u gwnaeth yn ddelw gerfiedig, a thoddedig: a hwy a fuant yn nhŷ Mica.

5. A chan y gŵr hwn Mica yr oedd tŷ duwiau; ac efe a wnaeth effod, a theraffim, ac a gysegrodd un o'i feibion i fod yn offeiriad iddo.

6. Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel; ond pob un a wnâi yr hyn oedd uniawn yn ei olwg ei hun.

7. Ac yr oedd gŵr ieuanc o Bethlehem Jwda, o dylwyth Jwda, a Lefiad oedd efe; ac efe a ymdeithiai yno.

8. A'r gŵr a aeth allan o'r ddinas o Bethlehem Jwda, i drigo pa le bynnag y caffai le: ac efe a ddaeth i fynydd Effraim i dŷ Mica, yn ei ymdaith.

9. A Mica a ddywedodd wrtho, O ba le y daethost ti? Dywedodd yntau wrtho, Lefiad ydwyf o Bethlehem Jwda; a myned yr ydwyf i drigo lle caffwyf le.

Barnwyr 17