Barnwyr 16:3-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. A Samson a orweddodd hyd hanner nos; ac a gyfododd ar hanner nos, ac a ymaflodd yn nrysau porth y ddinas, ac yn y ddau bost, ac a aeth ymaith â hwynt ynghyd â'r bar, ac a'u gosododd ar ei ysgwyddau, ac a'u dug hwynt i fyny i ben bryn sydd gyferbyn â Hebron.

4. Ac wedi hyn efe a garodd wraig yn nyffryn Sorec, a'i henw Dalila.

5. Ac arglwyddi'r Philistiaid a aethant i fyny ati hi, ac a ddywedasant wrthi, Huda ef, ac edrych ym mha le y mae ei fawr nerth ef, a pha fodd y gorthrechwn ef, fel y rhwymom ef i'w gystuddio: ac ni a roddwn i ti bob un fil a chant o arian.

6. A Dalila a ddywedodd wrth Samson, Mynega i mi, atolwg, ym mha fan y mae dy fawr nerth di, ac â pha beth y'th rwymid i'th gystuddio.

7. A Samson a ddywedodd wrthi, Pe rhwyment fi â saith o wdyn irion, y rhai ni sychasai; yna y gwanychwn, ac y byddwn fel gŵr arall.

8. Yna arglwyddi'r Philistiaid a ddygasant i fyny ati hi saith o wdyn irion, y rhai ni sychasent; a hi a'i rhwymodd ef â hwynt.

9. (A chynllwynwyr oedd yn aros ganddi mewn ystafell.) A hi a ddywedodd wrtho ef, Y mae y Philistiaid arnat ti, Samson. Ac efe a dorrodd y gwdyn, fel y torrir edau garth wedi cyffwrdd â'r tân: felly ni wybuwyd ei gryfder ef.

10. A dywedodd Dalila wrth Samson, Ti a'm twyllaist, ac a ddywedaist gelwydd wrthyf: yn awr mynega i mi, atolwg, â pha beth y gellid dy rwymo.

11. Ac efe a ddywedodd wrthi, Pe gan rwymo y rhwyment fi â rhaffau newyddion, y rhai ni wnaethpwyd gwaith â hwynt; yna y gwanychwn, ac y byddwn fel gŵr arall.

12. Am hynny Dalila a gymerth raffau newyddion, ac a'i rhwymodd ef â hwynt; ac a ddywedodd wrtho, Y mae y Philistiaid arnat ti, Samson. (Ac yr oedd cynllwynwyr yn aros mewn ystafell.) Ac efe a'u torrodd hwynt oddi am ei freichiau fel edau.

13. A Dalila a ddywedodd wrth Samson, Hyd yn hyn y twyllaist fi, ac y dywedaist gelwydd wrthyf: mynega i mi, â pha beth y'th rwymid. Dywedodd yntau wrthi hi, Pe plethit ti saith gudyn fy mhen ynghyd â'r we.

14. A hi a'i gwnaeth yn sicr â'r hoel; ac a ddywedodd wrtho ef, Y mae y Philistiaid arnat ti, Samson. Ac efe a ddeffrôdd o'i gwsg, ac a aeth ymaith â hoel y garfan, ac â'r we.

15. A hi a ddywedodd wrtho ef, Pa fodd y dywedi, Cu gennyf dydi, a'th galon heb fod gyda mi? Teirgwaith bellach y'm twyllaist, ac ni fynegaist i mi ym mha fan y mae dy fawr nerth.

16. Ac oherwydd ei bod hi yn ei flino ef â'i geiriau beunydd, ac yn ei boeni ef, ei enaid a ymofidiodd i farw:

17. Ac efe a fynegodd iddi ei holl galon; ac a ddywedodd wrthi, Ni ddaeth ellyn ar fy mhen i: canys Nasaread i Dduw ydwyf fi o groth fy mam. Ped eillid fi, yna y ciliai fy nerth oddi wrthyf, ac y gwanychwn, ac y byddwn fel gŵr arall.

18. A phan welodd Dalila fynegi ohono ef iddi hi ei holl galon, hi a anfonodd ac a alwodd am bendefigion y Philistiaid, gan ddywedyd, Deuwch i fyny unwaith; canys efe a fynegodd i mi ei holl galon. Yna arglwyddi'r Philistiaid a ddaethant i fyny ati hi, ac a ddygasant arian yn eu dwylo.

19. A hi a wnaeth iddo gysgu ar ei gliniau; ac a alwodd ar ŵr, ac a barodd eillio saith gudyn ei ben ef: a hi a ddechreuodd ei gystuddio ef; a'i nerth a ymadawodd oddi wrtho.

20. A hi a ddywedodd, Y mae y Philistiaid arnat ti, Samson. Ac efe a ddeffrôdd o'i gwsg, ac a ddywedodd, Af allan y waith hon fel cynt, ac ymysgydwaf. Ond ni wyddai efe fod yr Arglwydd wedi cilio oddi wrtho.

Barnwyr 16