Barnwyr 15:5-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Ac efe a gyneuodd dân yn y ffaglau, ac a'u gollyngodd hwynt i ydau y Philistiaid; ac a losgodd hyd yn oed y dasau, a'r ŷd ar ei droed, y gwinllannoedd hefyd, a'r olewydd.

6. Yna y Philistiaid a ddywedasant, Pwy a wnaeth hyn? Hwythau a ddywedasant, Samson daw y Timniad; am iddo ddwyn ei wraig ef, a'i rhoddi i'w gyfaill ef. A'r Philistiaid a aethant i fyny, ac a'i llosgasant hi a'i thad â thân.

7. A dywedodd Samson wrthynt, Er i chwi wneuthur fel hyn, eto mi a ymddialaf arnoch chwi; ac wedi hynny y peidiaf.

8. Ac efe a'u trawodd hwynt glun a morddwyd â lladdfa fawr: ac efe a aeth i waered, ac a arhosodd yng nghopa craig Etam.

9. Yna y Philistiaid a aethant i fyny, ac a wersyllasant yn Jwda, ac a ymdaenasant yn Lehi.

10. A gwŷr Jwda a ddywedasant, Paham y daethoch i fyny i'n herbyn ni? Dywedasant hwythau, I rwymo Samson y daethom i fyny, i wneuthur iddo ef fel y gwnaeth yntau i ninnau.

11. Yna tair mil o wŷr o Jwda a aethant i gopa craig Etam, ac a ddywedasant wrth Samson, Oni wyddost ti fod y Philistiaid yn arglwyddiaethu arnom ni? paham gan hynny y gwnaethost hyn â ni? Dywedodd yntau wrthynt, Fel y gwnaethant hwy i mi, felly y gwneuthum innau iddynt hwythau.

12. Dywedasant hwythau wrtho, I'th rwymo di y daethom i waered, ac i'th roddi yn llaw y Philistiaid. A Samson a ddywedodd wrthynt, Tyngwch wrthyf, na ruthrwch arnaf fi eich hunain.

13. Hwythau a'i hatebasant ef, gan ddywedyd, Na ruthrwn: eithr gan rwymo y'th rwymwn di, ac y'th roddwn yn eu llaw hwynt; ond ni'th laddwn di. A rhwymasant ef â dwy raff newydd, ac a'i dygasant ef i fyny o'r graig.

Barnwyr 15