Barnwyr 15:15-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Ac efe a gafodd ên asyn ir; ac a estynnodd ei law, ac a'i cymerodd, ac a laddodd â hi fil o wŷr.

16. A Samson a ddywedodd, A gên asyn, pentwr ar bentwr; â gên asyn y lleddais fil o wŷr.

17. A phan orffennodd efe lefaru, yna efe a daflodd yr ên o'i law, ac a alwodd y lle hwnnw Ramath‐lehi.

Barnwyr 15