10. A gwŷr Jwda a ddywedasant, Paham y daethoch i fyny i'n herbyn ni? Dywedasant hwythau, I rwymo Samson y daethom i fyny, i wneuthur iddo ef fel y gwnaeth yntau i ninnau.
11. Yna tair mil o wŷr o Jwda a aethant i gopa craig Etam, ac a ddywedasant wrth Samson, Oni wyddost ti fod y Philistiaid yn arglwyddiaethu arnom ni? paham gan hynny y gwnaethost hyn â ni? Dywedodd yntau wrthynt, Fel y gwnaethant hwy i mi, felly y gwneuthum innau iddynt hwythau.
12. Dywedasant hwythau wrtho, I'th rwymo di y daethom i waered, ac i'th roddi yn llaw y Philistiaid. A Samson a ddywedodd wrthynt, Tyngwch wrthyf, na ruthrwch arnaf fi eich hunain.
13. Hwythau a'i hatebasant ef, gan ddywedyd, Na ruthrwn: eithr gan rwymo y'th rwymwn di, ac y'th roddwn yn eu llaw hwynt; ond ni'th laddwn di. A rhwymasant ef â dwy raff newydd, ac a'i dygasant ef i fyny o'r graig.
14. A phan ddaeth efe i Lehi, y Philistiaid a floeddiasant wrth gyfarfod ag ef. Ac ysbryd yr Arglwydd a ddaeth arno ef; a'r rhaffau oedd am ei freichiau a aethant fel llin a losgasid yn tân, a'r rhwymau a ddatodasant oddi am ei ddwylo ef.
15. Ac efe a gafodd ên asyn ir; ac a estynnodd ei law, ac a'i cymerodd, ac a laddodd â hi fil o wŷr.
16. A Samson a ddywedodd, A gên asyn, pentwr ar bentwr; â gên asyn y lleddais fil o wŷr.