Barnwyr 13:23-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. Ond ei wraig a ddywedodd wrtho ef, Pe mynasai yr Arglwydd ein lladd ni, ni dderbyniasai efe boethoffrwm a bwyd‐offrwm o'n llaw ni, ac ni ddangosasai efe i ni yr holl bethau hyn, ac ni pharasai efe i ni y pryd hyn glywed y fath bethau.

24. A'r wraig a ymddûg fab, ac a alwodd ei enw ef Samson. A'r bachgen a gynyddodd; a'r Arglwydd a'i bendithiodd ef.

25. Ac ysbryd yr Arglwydd a ddechreuodd ar amseroedd ei gynhyrfu ef yng ngwersyll Dan, rhwng Sora ac Estaol.

Barnwyr 13