1. A Meibion Israel a chwanegasant wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd: a'r Arglwydd a'u rhoddodd hwynt yn llaw y Philistiaid ddeugain mlynedd.
2. Ac yr oedd rhyw ŵr yn Sora, o dylwyth y Daniaid, a'i enw ef oedd Manoa; a'i wraig ef oedd amhlantadwy, heb esgor.
3. Ac angel yr Arglwydd a ymddangosodd i'r wraig, ac a ddywedodd wrthi, Wele, yn awr amhlantadwy ydwyt ti, ac heb esgor: ond ti a feichiogi, ac a esgori ar fab.
4. Ac yn awr, atolwg, ymochel, ac nac yf win na diod gadarn, ac na fwyta ddim aflan.
5. Canys wele, ti a feichiogi, ac a esgori ar fab; ac ni ddaw ellyn ar ei ben ef: canys Nasaread i Dduw fydd y bachgen o'r groth: ac efe a ddechrau waredu Israel o law y Philistiaid.
6. Yna y daeth y wraig ac a fynegodd i'w gŵr, gan ddywedyd, Gŵr Duw a ddaeth ataf fi; a'i bryd ef oedd fel pryd angel Duw, yn ofnadwy iawn: ond ni ofynnais iddo o ba le yr oedd, ac ni fynegodd yntau i mi ei enw.
7. Ond efe a ddywedodd wrthyf, Wele, ti a feichiogi, ac a esgori ar fab. Ac yn awr nac yf win na diod gadarn, ac na fwyta ddim aflan: canys Nasaread i Dduw fydd y bachgen, o'r groth hyd ddydd ei farwolaeth.