Barnwyr 12:7-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. A Jefftha a farnodd Israel chwe blynedd. Yna y bu farw Jefftha y Gileadiad, ac a gladdwyd yn un o ddinasoedd Gilead.

8. Ac ar ei ôl ef, Ibsan o Bethlehem a farnodd Israel.

9. Ac iddo ef yr oedd deng mab ar hugain, a deng merch ar hugain, y rhai a anfonodd efe allan, a deng merch ar hugain a ddug efe i'w feibion oddi allan. Ac efe a farnodd Israel saith mlynedd.

10. Yna y bu farw Ibsan, ac a gladdwyd yn Bethlehem.

Barnwyr 12