Barnwyr 12:5-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. A'r Gileadiaid a enillasant rydau yr Iorddonen o flaen yr Effraimiaid: a phan ddywedai yr Effraimiaid a ddianghasent, Gedwch i mi fyned drwodd: yna gwŷr Gilead a ddywedent wrtho, Ai Effraimiaid ydwyt ti? Os dywedai yntau, Nage;

6. Yna y dywedent wrtho, Dywed yn awr, Shibboleth. Dywedai yntau, Sibboleth; canys ni fedrai efe lefaru felly. Yna y dalient ef, ac y lladdent ef wrth rydau yr Iorddonen. A chwympodd y pryd hwnnw o Effraim ddwy fil a deugain.

7. A Jefftha a farnodd Israel chwe blynedd. Yna y bu farw Jefftha y Gileadiad, ac a gladdwyd yn un o ddinasoedd Gilead.

8. Ac ar ei ôl ef, Ibsan o Bethlehem a farnodd Israel.

9. Ac iddo ef yr oedd deng mab ar hugain, a deng merch ar hugain, y rhai a anfonodd efe allan, a deng merch ar hugain a ddug efe i'w feibion oddi allan. Ac efe a farnodd Israel saith mlynedd.

10. Yna y bu farw Ibsan, ac a gladdwyd yn Bethlehem.

11. Ac ar ei ôl ef, Elon y Sabuloniad a farnodd Israel: ac efe a farnodd Israel ddeng mlynedd.

12. Ac Elon y Sabuloniad a fu farw, ac a gladdwyd yn Ajalon, yng ngwlad Sabulon.

Barnwyr 12