Barnwyr 12:13-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Ac Abdon mab Hilel y Pirathoniad a farnodd Israel ar ei ôl ef.

14. Ac iddo ef yr oedd deugain o feibion, a deg ar hugain o wyrion, yn marchogaeth ar ddeg a thrigain o ebolion asynnod: ac efe a farnodd Israel wyth mlynedd.

15. Ac Abdon mab Hilel y Pirathoniad a fu farw: ac a gladdwyd yn Pirathon, yng ngwlad Effraim, ym mynydd yr Amaleciaid.

Barnwyr 12