Barnwyr 11:3-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Yna Jefftha a ffodd rhag ei frodyr, ac a drigodd yng ngwlad Tob; a dynion ofer a ymgasglasant at Jefftha, ac a aethant allan gydag ef.

4. Ac wedi talm o ddyddiau, meibion Ammon a ryfelasant yn erbyn Israel.

5. A phan oedd meibion Ammon yn rhyfela yn erbyn Israel, yna henuriaid Gilead a aethant i gyrchu Jefftha o wlad Tob:

6. Ac a ddywedasant wrth Jefftha, Tyred a bydd yn dywysog i ni, fel yr ymladdom yn erbyn meibion Ammon.

7. A Jefftha a ddywedodd wrth henuriaid Gilead, Oni chasasoch chwi fi, ac a'm gyrasoch o dŷ fy nhad? a phaham y deuwch ataf fi yn awr, pan yw gyfyng arnoch?

8. A henuriaid Gilead a ddywedasant wrth Jefftha, Am hynny y dychwelasom yn awr atat ti, fel y delit gyda ni, ac yr ymladdit yn erbyn meibion Ammon, ac y byddit i ni yn ben ar holl drigolion Gilead.

9. A Jefftha a ddywedodd wrth henuriaid Gilead, O dygwch fi yn fy ôl i ymladd yn erbyn meibion Ammon, a rhoddi o'r Arglwydd hwynt o'm blaen i; a gaf fi fod yn ben arnoch chwi?

10. A henuriaid Gilead a ddywedasant wrth Jefftha, Yr Arglwydd a fyddo yn dyst rhyngom ni, oni wnawn ni felly yn ôl dy air di.

Barnwyr 11