25. Ac yn awr, a wyt ti yn well na Balac mab Sippor, brenin Moab? a ymrysonodd efe erioed ag Israel, neu gan ymladd a ymladdodd efe i'w herbyn hwy?
26. Pan oedd Israel yn trigo yn Hesbon a'i threfydd, ac yn Aroer a'i threfydd, ac yn yr holl ddinasoedd y rhai sydd wrth derfynau Arnon, dri chan mlynedd; paham nad achubasoch hwynt y pryd hwnnw?
27. Am hynny ni phechais i yn dy erbyn di; ond yr ydwyt ti yn gwneuthur cam â mi, gan ymladd yn fy erbyn i; yr Arglwydd Farnwr a farno heddiw rhwng meibion Israel a meibion Ammon.
28. Er hynny ni wrandawodd brenin meibion Ammon ar eiriau Jefftha, y rhai a anfonodd efe ato.
29. Yna y daeth ysbryd yr Arglwydd ar Jefftha; ac efe a aeth dros Gilead a Manasse; ac a aeth dros Mispa Gilead, ac o Mispa Gilead yr aeth efe drosodd at feibion Ammon.
30. A Jefftha a addunedodd adduned i'r Arglwydd, ac a ddywedodd, Os gan roddi y rhoddi di feibion Ammon yn fy llaw i;
31. Yna yr hwn a ddelo allan o ddrysau fy nhŷ i'm cyfarfod, pan ddychwelwyf mewn heddwch oddi wrth feibion Ammon, a fydd eiddo yr Arglwydd, a mi a'i hoffrymaf ef yn boethoffrwm.
32. Felly Jefftha a aeth drosodd at feibion Ammon i ymladd yn eu herbyn; a'r Arglwydd a'u rhoddodd hwynt yn ei law ef.
33. Ac efe a'u trawodd hwynt o Aroer hyd oni ddelych di i Minnith, sef ugain dinas, a hyd wastadedd y gwinllannoedd, â lladdfa fawr iawn. Felly y darostyngwyd meibion Ammon o flaen meibion Israel.
34. A Jefftha a ddaeth i Mispa i'w dŷ ei hun: ac wele ei ferch yn dyfod allan i'w gyfarfod â thympanau, ac â dawnsiau; a hi oedd ei unig etifedd ef; nid oedd ganddo na mab na merch ond hyhi.