Barnwyr 11:22-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. Meddianasant hefyd holl derfynau yr Amoriaid, o Arnon hyd Jabboc, ac o'r anialwch hyd yr Iorddonen.

23. Felly yn awr, Arglwydd Dduw Israel a fwriodd yr Amoriaid allan o flaen ei bobl Israel: gan hynny ai tydi a'i meddiannit hi?

24. Oni feddienni di yr hyn a roddo Cemos dy dduw i ti i'w feddiannu? Felly yr hyn oll a oresgynno yr Arglwydd ein Duw o'n blaen ni a feddiannwn ninnau.

25. Ac yn awr, a wyt ti yn well na Balac mab Sippor, brenin Moab? a ymrysonodd efe erioed ag Israel, neu gan ymladd a ymladdodd efe i'w herbyn hwy?

26. Pan oedd Israel yn trigo yn Hesbon a'i threfydd, ac yn Aroer a'i threfydd, ac yn yr holl ddinasoedd y rhai sydd wrth derfynau Arnon, dri chan mlynedd; paham nad achubasoch hwynt y pryd hwnnw?

27. Am hynny ni phechais i yn dy erbyn di; ond yr ydwyt ti yn gwneuthur cam รข mi, gan ymladd yn fy erbyn i; yr Arglwydd Farnwr a farno heddiw rhwng meibion Israel a meibion Ammon.

28. Er hynny ni wrandawodd brenin meibion Ammon ar eiriau Jefftha, y rhai a anfonodd efe ato.

29. Yna y daeth ysbryd yr Arglwydd ar Jefftha; ac efe a aeth dros Gilead a Manasse; ac a aeth dros Mispa Gilead, ac o Mispa Gilead yr aeth efe drosodd at feibion Ammon.

Barnwyr 11