Barnwyr 11:1-2 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Jefftha y Gileadiad oedd ŵr cadarn nerthol, ac efe oedd fab i wraig o buteinwraig: a Gilead a genedlasai y Jefftha hwnnw.

2. A gwraig Gilead a ymddûg iddo feibion: a meibion y wraig a gynyddasant, ac a fwriasant ymaith Jefftha, ac a ddywedasant wrtho, Nid etifeddi di yn nhŷ ein tad ni; canys mab gwraig ddieithr ydwyt ti.

Barnwyr 11