Barnwyr 10:16-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. A hwy a fwriasant ymaith y duwiau dieithr o'u mysg, ac a wasanaethasant yr Arglwydd: a'i enaid ef a dosturiodd, oherwydd adfyd Israel.

17. Yna meibion Ammon a ymgynullasant, ac a wersyllasant yn Gilead: a meibion Israel a ymgasglasant, ac a wersyllasant ym Mispa.

18. Y bobl hefyd a thywysogion Gilead a ddywedasant wrth ei gilydd, Pa ŵr a ddechrau ymladd yn erbyn meibion Ammon? efe a fydd yn bennaeth ar drigolion Gilead.

Barnwyr 10