Amos 5:24-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. Ond rheded barn fel dyfroedd, a chyfiawnder fel ffrwd gref.

25. A offrymasoch chwi i mi aberthau a bwyd‐offrymau yn y diffeithwch ddeugain mlynedd, tŷ Israel?

26. Ond dygasoch babell eich Moloch a Chïwn, eich delwau, seren eich duw, a wnaethoch i chwi eich hunain.

27. Am hynny y caethgludaf chwi i'r tu hwnt i Damascus, medd yr Arglwydd; Duw y lluoedd yw ei enw.

Amos 5