Amos 4:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gwrandewch y gair hwn, gwartheg Basan, y rhai ydych ym mynydd Samaria, y rhai ydych yn gorthrymu y tlawd, yn ysigo yr anghenog, yn dywedyd wrth eu meistriaid, Dygwch, ac yfwn.

2. Tyngodd yr Arglwydd Dduw i'w sancteiddrwydd, y daw, wele, y dyddiau arnoch, y dwg efe chwi ymaith â drain, a'ch hiliogaeth â bachau pysgota.

3. A chwi a ewch allan i'r adwyau, bob un ar ei chyfer; a chwi a'u teflwch hwynt i'r palas, medd yr Arglwydd.

4. Deuwch i Bethel, a throseddwch; i Gilgal, a throseddwch fwyfwy: dygwch bob bore eich aberthau, a'ch degymau wedi tair blynedd o ddyddiau;

5. Ac offrymwch o surdoes aberth diolch, cyhoeddwch a hysbyswch aberthau gwirfodd: canys hyn a hoffwch, meibion Israel, medd yr Arglwydd Dduw.

6. A rhoddais i chwi lendid dannedd yn eich holl ddinasoedd, ac eisiau bara yn eich holl leoedd: eto ni ddychwelasoch ataf fi, medd yr Arglwydd.

7. Myfi hefyd a ateliais y glaw rhagoch, pan oedd eto dri mis hyd y cynhaeaf: glawiais hefyd ar un ddinas, ac ni lawiais ar ddinas arall: un rhan a gafodd law; a'r rhan ni chafodd law a wywodd.

8. Gwibiodd dwy ddinas neu dair i un ddinas, i yfed dwfr; ond nis diwallwyd: eto ni ddychwelasoch ataf fi, medd yr Arglwydd.

Amos 4