Amos 3:10-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Canys ni fedrant wneuthur uniondeb, medd yr Arglwydd: pentyrru y maent drais ac ysbail yn eu palasau.

11. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Gelyn fydd o amgylch y tir; ac efe a dynn i lawr dy nerth oddi wrthyt, a'th balasoedd a ysbeilir.

12. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Fel yr achub y bugail o safn y llew y ddwy goes, neu ddarn o glust; felly yr achubir meibion Israel y rhai sydd yn trigo yn Samaria mewn cwr gwely, ac yn Damascus mewn gorweddle.

13. Gwrandewch, a thystiolaethwch yn nhÅ· Jacob, medd yr Arglwydd Dduw, Duw y lluoedd,

Amos 3