Amos 1:8-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. A mi a dorraf y preswylwyr o Asdod, a'r hwn a ddeil deyrnwialen o Ascalon; a throaf fy llaw yn erbyn Ecron, a derfydd am weddill y Philistiaid, medd yr Arglwydd Dduw.

9. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau Tyrus, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; oherwydd iddynt hwy roddi i fyny gwbl o'r gaethiwed i Edom, ac na chofiasant y cyfamod brawdol.

10. Eithr anfonaf dân i fur Tyrus, ac efe a ddifa ei phalasau hi.

11. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau Edom, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddo erlid ei frawd â'r cleddyf, a llygru ei drugaredd, a bod ei ddig yn rhwygo yn wastadol, a'i fod yn cadw ei lid yn dragwyddol.

12. Eithr anfonaf dân i Teman, yr hwn a ddifa balasau Bosra.

Amos 1