Amos 1:8-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. A mi a dorraf y preswylwyr o Asdod, a'r hwn a ddeil deyrnwialen o Ascalon; a throaf fy llaw yn erbyn Ecron, a derfydd am weddill y Philistiaid, medd yr Arglwydd Dduw.

9. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau Tyrus, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; oherwydd iddynt hwy roddi i fyny gwbl o'r gaethiwed i Edom, ac na chofiasant y cyfamod brawdol.

10. Eithr anfonaf dân i fur Tyrus, ac efe a ddifa ei phalasau hi.

Amos 1