Amos 1:4-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Ond anfonaf dân i dŷ Hasael, ac efe a ddifa balasau Benhadad.

5. Drylliaf drosol Damascus, a thorraf ymaith y preswylwyr o ddyffryn Afen, a'r hwn sydd yn dal teyrnwialen o dŷ Eden; a phobl Syria a ânt yn gaeth i Cir, medd yr Arglwydd.

6. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau Gasa, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt gaethgludo y gaethiwed gyflawn, i'w rhoddi i fyny i Edom.

7. Eithr anfonaf dân ar fur Gasa, ac efe a ddifa ei phalasau hi.

8. A mi a dorraf y preswylwyr o Asdod, a'r hwn a ddeil deyrnwialen o Ascalon; a throaf fy llaw yn erbyn Ecron, a derfydd am weddill y Philistiaid, medd yr Arglwydd Dduw.

Amos 1