Amos 1:12-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Eithr anfonaf dân i Teman, yr hwn a ddifa balasau Bosra.

13. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau meibion Ammon, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt hwy rwygo gwragedd beichiogion Gilead, er mwyn helaethu eu terfynau.

14. Eithr cyneuaf dân ym mur Rabba, ac efe a ddifa ei phalasau, gyda gwaedd ar ddydd y rhyfel, gyda thymestl ar ddydd corwynt.

15. A'u brenin a â yn gaeth, efe a'i benaethiaid ynghyd, medd yr Arglwydd.

Amos 1