Actau'r Apostolion 9:40-43 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

40. Eithr Pedr, wedi eu bwrw hwy i gyd allan, a dodi ei liniau ar lawr, a weddïodd; a chan droi at y corff, a ddywedodd, Tabitha, cyfod. A hi a agorodd ei llygaid; a phan welodd hi Pedr, hi a gododd yn ei heistedd.

41. Ac efe a roddodd ei law iddi, ac a'i cyfododd hi i fyny. Ac wedi galw y saint a'r gwragedd gweddwon, efe a'i gosododd hi gerbron yn fyw.

42. A hysbys fu trwy holl Jopa; a llawer a gredasant yn yr Arglwydd.

43. A bu iddo aros yn Jopa lawer o ddyddiau gydag un Simon, barcer.

Actau'r Apostolion 9