Actau'r Apostolion 9:4-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Ac efe a syrthiodd ar y ddaear, ac a glybu lais yn dywedyd wrtho, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid i?

5. Yntau a ddywedodd, Pwy wyt ti, Arglwydd? A'r Arglwydd a ddywedodd, Myfi yw Iesu, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid: caled yw i ti wingo yn erbyn y symbylau.

6. Yntau gan grynu, ac รข braw arno, a ddywedodd, Arglwydd, beth a fynni di i mi ei wneuthur? A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dos i'r ddinas, ac fe a ddywedir i ti pa beth sydd raid i ti ei wneuthur.

Actau'r Apostolion 9