33. Ac efe a gafodd yno ryw ddyn a'i enw Aeneas, er ys wyth mlynedd yn gorwedd ar wely, yr hwn oedd glaf o'r parlys.
34. A Phedr a ddywedodd wrtho, Aeneas, y mae Iesu Grist yn dy iacháu di: cyfod, a chyweiria dy wely. Ac efe a gyfododd yn ebrwydd.
35. A phawb a'r oedd yn preswylio yn Lyda a Saron a'i gwelsant ef, ac a ymchwelasant at yr Arglwydd.
36. Ac yn Jopa yr oedd rhyw ddisgybles a'i henw Tabitha, (yr hon os cyfieithir a elwir Dorcas;) hon oedd yn llawn o weithredoedd da ac elusennau, y rhai a wnaethai hi.
37. A digwyddodd yn y dyddiau hynny iddi fod yn glaf, a marw: ac wedi iddynt ei golchi, hwy a'i dodasant hi mewn llofft.
38. Ac oherwydd bod Lyda yn agos i Jopa, y disgyblion a glywsant fod Pedr yno; ac a anfonasant ddau ŵr ato ef, gan ddeisyf nad oedai ddyfod hyd atynt hwy.
39. A Phedr a gyfododd, ac a aeth gyda hwynt. Ac wedi ei ddyfod, hwy a'i dygasant ef i fyny i'r llofft: a'r holl wragedd gweddwon a safasant yn ei ymyl ef yn wylo, ac yn dangos y peisiau a'r gwisgoedd a wnaethai Dorcas tra ydoedd hi gyda hwynt.
40. Eithr Pedr, wedi eu bwrw hwy i gyd allan, a dodi ei liniau ar lawr, a weddïodd; a chan droi at y corff, a ddywedodd, Tabitha, cyfod. A hi a agorodd ei llygaid; a phan welodd hi Pedr, hi a gododd yn ei heistedd.
41. Ac efe a roddodd ei law iddi, ac a'i cyfododd hi i fyny. Ac wedi galw y saint a'r gwragedd gweddwon, efe a'i gosododd hi gerbron yn fyw.
42. A hysbys fu trwy holl Jopa; a llawer a gredasant yn yr Arglwydd.
43. A bu iddo aros yn Jopa lawer o ddyddiau gydag un Simon, barcer.