Actau'r Apostolion 9:33-35 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

33. Ac efe a gafodd yno ryw ddyn a'i enw Aeneas, er ys wyth mlynedd yn gorwedd ar wely, yr hwn oedd glaf o'r parlys.

34. A Phedr a ddywedodd wrtho, Aeneas, y mae Iesu Grist yn dy iacháu di: cyfod, a chyweiria dy wely. Ac efe a gyfododd yn ebrwydd.

35. A phawb a'r oedd yn preswylio yn Lyda a Saron a'i gwelsant ef, ac a ymchwelasant at yr Arglwydd.

Actau'r Apostolion 9